CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship

Specialist Uses

Recordio Cerddoriaeth a Geiriau

Recordio oedfaon neu gyngherddau drwy ddefnydd sain neu fideo

Dylid sicrhau ymlaen llaw, ymhob achos, fod gennych y drwydded gywir ar gyfer recordio drwy sain, fideo, CD neu DVD unrhyw eiriau neu gerddoriaeth sydd dan hawlfraint.

Recordiadau di-fasnachol

Y sefydliad sy’n gyfrifol am gynrychioli’r rhan fwyaf o berchnogion hawlfraint yn y DU; a thrwy gysylltiad â sefydliadau eraill; yn y rhan helaeth o’r byd, yw The Mechanical-Copyright Protection Society (MCPS). Mae’r MCPS wedi apwyntio’r CCLE fel ei brif asiant i drwyddedu hawliau recordio yn yr eglwys ar gyfer defnydd di-fasnachol.

Mae’r trefniant arbennig hwn rhwng y MCPS a’r CCLE yn rhan o’r drwydded, Church Copyright Licence (gweler yn gynharach). Mae fwyaf buddiol i’r eglwysi hynny sy’n recordio gwasanaethau a rhannu nifer bach ohonynt ymysg y gynulleidfa fel rhan o’r gwaith gweinidogaethu. Mae recordio priodasau, bedyddiadau a chladdedigaethau hefyd, yn rhan o’r cytundeb hwn. Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r CCLE. Copyright Agencies.

Recordiadau masnachol

Nid yw recordiadau ar gyfer eu gwerthu neu ddefnydd masnachol yn rhan o’r cytundeb uchod. Rhaid gwneud ymholiadau ar gyfer trwyddedu i’r MCPS. Copyright Agencies.

Deunydd wedi’i recordio ymlaen llaw

Phonographic Performance Limited (PPL), sy’n cynrychioli a diogelu hawliau perchnogion; fel arfer cwmnïau recordiau, a’u hawl i’r recordiad sain, sef eu hawl ffonograffig. Nid oes hawl gan neb i gopïo recordiau, CD, na thapiau, heb ganiatâd unigol perchnogion y gerddoriaeth, y geiriau, a’r recordiad. Os ydych am olygu cerddoriaeth, sydd dan hawlfraint, i mewn i fideo, rhaid cael y drwydded Private Function Post Production Licence ynghyd â thrwydded benodol o’r PPL ar gyfer golygu’r recordiad sain.

<< Previous | Next >>