CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship CMPA, Christian Music Publishers Association, www.cmpa-europe.org, CMPA Europe, Resourcing the church for worship

Beth yw ‘Hawlfraint’?

Pwrpas ‘Hawlfraint’ yw diogelu perchnogaeth gyfreithiol gwaith creadigol awduron, cyfansoddwyr, artistiaid, ffotograffwyr, cynhyrchwyr ffilm, cyhoeddwyr, ac eraill tebyg.

Y Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatent 1988 (Copyright, Designs and Patents Act 1988) yw’r ddeddfwriaeth hawlfraint yn y DU. O bryd i’w gilydd mae yna ddiwygio arni wrth i ddeddfau newydd gael eu pasio yn y Senedd. Mae deddfau hawlfraint yn galluogi awduron i ennill bywoliaeth o’u gwaith, gan barhau i ddarparu gwaith ar gyfer eraill i’w fwynhau. O bryd i’w gilydd bydd yr awdur yn pennu neu’n trwyddedu ei hawliau i gyhoeddwr. Gall y cyhoeddwr, wedyn, drwyddedu eraill i ddefnyddio’r gwaith. Mae hawl gan berchennog yr hawlfraint i atgynhyrchu’r gwaith yn brintiedig neu mewn fformat gwahanol, ar gyfer darlledu, recordio, addasu a diwygio, i’w berfformio, a’i arddangos. Mae hawl gan berchennog yr hawlfraint i drwyddedu eraill i wneud hyn hefyd..

Mae deddfau hawlfraint tebyg i’w cael bron ym mhob gwlad arall.

<< Previous | Next >>